Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Ychwanegion Bwyd, Cyflasynnau Bwyd, a Bwydydd Newydd (Awdurdodiadau) a Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

 

Pwynt Craffu Technegol 1:         Mae’r Llywodraeth yn derbyn y pwynt adrodd, ond nid yw’n ystyried y bydd y testun yn y troednodyn sydd ar goll yn peri dryswch sylweddol. Mae testun troednodyn (1) yn gyson drwy gydol Rhan E o Atodiad 2 i EUR 2008/1333, felly bydd yr hyn y mae’r troednodyn yn ei ddynodi yn amlwg i ddarllenydd y ddeddfwriaeth.

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu gwneud y cywiriad yn yr offeryn statudol awdurdodi ychwanegion bwyd nesaf sy’n diwygio EUR 2008/1333. Rydym yn rhag-weld y bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo yn chwarter cyntaf 2024.

 

Pwynt craffu technegol 2:           Mae’r ail gofnod ar gyfer glycosidau stefiol E 960 (E 960a ac E 960c bellach) yng nghategori 05.2 yn cwmpasu pob taeniad brechdanau sydd wedi’i seilio ar goco, llaeth, ffrwythau sych neu fraster (neu unrhyw gyfuniad o’r pethau hyn).

Mae’r Llywodraeth yn nodi bod anghysondeb rhwng geiriad y cofnod hwn a chofnodion eraill yn 05.2. Mae’r Llywodraeth hefyd yn nodi bod anghysondebau ehangach eisoes yng ngeiriad y cofnodion eraill yng nghategori 05.2, ac ar draws categorïau eraill Rhan E o Atodiad 2 i EUR 2008/1333 fel y’i dargadwyd.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r offeryn hwn a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig yn cadarnhau mai diben Rhan 2 yw rhoi effaith i awdurdodi dull newydd o gynhyrchu ychwanegyn sy’n bodoli eisoes. Mae’r cofnodion presennol ar gyfer glycosidau stefiol E 960 yn Rhan E o Atodiad 2 i EUR 2008/1333 yn cael eu hailddatgan yn erbyn yr E-rifau 960a ac E 960c diwygiedig. Mae’r Llywodraeth o’r farn ei bod yn glir nad oes bwriad i wneud unrhyw newid i’r categorïau bwyd y caniateir yr ychwanegyn ar eu cyfer nac i unrhyw un o’r cyfyngiadau neu’r eithriadau a restrir.

Nid yw’r Llywodraeth o’r farn y gallai’r anghysondebau rhwng y cofnodion beri dryswch sylweddol. Mae cwmpas arfaethedig cywir y cofnodion (gan gynnwys y cofnod penodol o dan sylw) wedi ennill ei blwyf ac yn ddealladwy i randdeiliaid.

O ran y cofnod penodol o dan sylw, mae’r Llywodraeth yn bwriadu rhoi eglurhad pellach yn yr offeryn statudol awdurdodi ychwanegion bwyd nesaf sy’n diwygio EUR 2008/1333.

 

Pwynt Craffu Technegol 3:          Yn Rhan E o Atodiad 2 i EUR 2008/1333, nid yw’r cofnodion yn y tabl ar gyfer ychwanegion bwyd E 960a ac E 960c yng nghategorïau 11.4.1, 11.4.2 ac 11.4.3 yn cynnwys terfynau rhifiadol uchaf ond maent i’w cymhwyso yn unol â quantum satis.  Diffinnir “quantum satis” yn Erthygl 3(2)(h) o EUR 2008/1333. Nid oes angen cynnwys troednodyn rhif (1) felly. Mae’r troednodyn hwnnw’n pennu y gellir ychwanegu ychwanegion yn unigol neu mewn cyfuniad, ac felly nid yw’n berthnasol ond pan fo lefel rifiadol uchaf benodedig wedi ei rhagnodi.

Mae troednodyn (1) yn ddiangen yn unrhyw gofnod presennol sy’n cwmpasu mwy nag un ychwanegyn lle caniateir defnydd yn unol â quantum satis.  Gan fod gweithrediad egwyddor quantum satis yn glir, mae’r Llywodraeth wedi ei bodloni na fydd y defnydd anghyson o’r troednodyn yng nghofnodion presennol Rhan E o Atodiad 2 yn arwain at anawsterau dehongli ar gyfer y cofnodion yr effeithir arnynt.

 

Pwynt Craffu Technegol 4:         Nid yw’r Llywodraeth o’r farn bod y pwynt yn nodi diffyg yn yr offeryn neu fethiant i gyflawni gofyniad statudol. Mae’r pwynt yn cyfeirio at Erthygl 4 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012, sef y ddarpariaeth dod i rym, a ddisbyddwyd i bob pwrpas pan ddaeth y Rheoliad yn gwbl gymwys ym mis Rhagfyr 2012. Nid yw’r Llywodraeth o’r farn ei bod yn angenrheidiol i’r offeryn hwn geisio diwygio Erthygl 4. 

 

Pwynt Craffu Technegol 5:          Yn yr Atodiad i EUR 2017/2470, mae gan bob cofnod yn Nhabl 1 fanyleb gyfatebol yn Nhabl 2. Mae’r cofnodion yn Nhabl 1 yn ymwneud â’r manylebau cyfatebol yn Nhabl 2 yn yr un drefn ag y’u hysgrifennwyd. Nid yw’r Llywodraeth o’r farn y gallai hyn beri dryswch.

Mae manylion ynghylch bwydydd newydd awdurdodedig hefyd ar gael drwy gyfeirio at y gofrestr bwydydd newydd. Bydd hon yn cael ei diweddaru unwaith y daw Rhan 4 o’r offeryn hwn i rym. Mae’r gofrestr ar gael i’r cyhoedd ar https://data.food.gov.uk/regulated-products/novel_authorisations.